DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cyhoeddi'r adroddiad 'Paratoi ar gyfer Datganoli Plismona yng Nghymru'

DYDDIAD

18 Mawrth 2024

GAN

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

 

Mae cymryd camau tuag at ddatganoli cyfiawnder a phlismona yn un o'r ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu 2021-26 Llywodraeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad unfrydol yn 2019 gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas), a gynhaliodd yr ymchwiliad mwyaf erioed i sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru.

 

Roedd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU ac a gyflwynodd ei adroddiad yn 2014 ac, yn fwy diweddar, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ill dau o blaid datganoli plismona. 

 

Wrth fwrw ymlaen â'r achos dros ddatganoli plismona, mae'n bwysig deall yr heriau cysylltiedig a sut y gellid ymateb iddynt. Fis Tachwedd y llynedd, cafodd tîm annibynnol ei gomisiynu gennym i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddeall y manteision, y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau. 

 

Mae'r tîm, dan arweiniad cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes QPM, wedi casglu safbwyntiau gan y rhai sydd ag arbenigedd ym maes plismona yng Nghymru; gyda phedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig Cymru a chyda'r Fonesig Vera Baird  yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder. 

 

Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad, sy'n edrych ar opsiynau posibl ar gyfer gwasanaeth plismona datganoledig yng Nghymru, gan ystyried yr ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithredu datganoli.  

 

Nid yw'r adolygiad yn mynegi barn am rinweddau datganoli plismona. Yn hytrach, mae'n egluro – yn fanylach nag sydd wedi’i wneud o'r blaen – y materion y byddai angen eu hystyried wrth wneud hynny. Mae'n gyfraniad hynod werthfawr i'n dealltwriaeth, ac rydym yn ddiolchgar i Carl Foulkes ac i bawb a weithiodd i'w gynorthwyo i lunio'r adroddiad hwn.  

 

Rydym yn ddiolchgar hefyd i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at yr adroddiad. Yn benodol, hoffem ddiolch i brif gwnstabliaid heddluoedd Cymru am helpu'r tîm adolygu i nodi'r materion y byddai angen mynd i'r afael â nhw. 

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys camau nesaf penodol i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Bydd hyn yn sail i'n hystyriaethau yn y dyfodol a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr heddlu.

 

Byddwn hefyd yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith yn y meysydd eraill yr ydym wedi nodi eu bod yn addas ar gyfer datganoli, sef cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru: adroddiad cynnydd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith yn y meysydd hyn.